Eloise Hawes
MA Peintio
Mae defnydd Eloise Hawes o las wedi’i ysbrydoli’n ddwfn gan ei theithiau i Wlad Groeg, gyda phob gwaith celf yn adlewyrchu atgofion o’r ynysoedd Rodos, Cefalonia a Chrete. Mae’r glas cyfoethog, diddiwedd hwn yn dal hanfod Môr yr Aegean eang a’r awyr agored a brofodd ar ei thaith gyntaf dramor i Rodos; taith a gafodd ddylanwad dwfn ar ei chelf. Arhosodd rhythm arafach a diwylliant hamddenol Gwlad Groeg gyda hi, gan ei hysbrydoli i gyfleu’r awyrgylch hwnnw yn ei gwaith, gan wahodd y gwyliwr i fynd ar daith weledol i ffwrdd o fywyd bob dydd.
Gan ddefnyddio pasteli olew, mae Hawes yn cofleidio rhyddid plentyndod yn ei gwneud marciau, tra bo’i phalet lliw cyfyngedig yn lleihau’r pwysau ac yn caniatáu mynegiant mwy chwareus a digyfyngiad. Mae ei phaentiadau’n datblygu o luniau personol ac atgofion, gan gario’r teimladau a gafodd yn y wlad. Mae manylion bach, fel cathod yn crwydro’n dawel ar draws ei chyfansoddiadau, yn ailadrodd drwyddi draw. Mae’r cathod hyn yn symbol o’i hun a’i chwilfrydedd i archwilio. Maent hefyd yn cysylltu â Gwlad Groeg ac yn ei hatgoffa o anifail anwes plentyndod annwyl, gan ei hannog i baentio gyda llawenydd rhydd plentyndod unwaith eto.
Eloise Hawes
MA Painting
Eloise Hawes’s use of blue is deeply inspired by her travels to Greece, with each artwork reflecting memories from the islands of Rhodes, Kefalonia, and Crete. This rich, endless blue captures the vast Aegean Sea and open skies she experienced on her first trip abroad to Rhodes; a journey that profoundly influenced her art. The slower pace and relaxed culture of Greece stayed with her, inspiring her to convey that atmosphere in her work while inviting viewers to take a visual escape from everyday life.
Using oil pastels, Hawes embraces a childlike freedom in her mark-making, while her limited colour palette helps reduce pressure, allowing for more playful and uninhibited expression. Her paintings develop from personal photos and memories, carrying the feelings she experienced in Greece. Small details, like cats quietly wandering across her compositions, recur throughout her work. These cats symbolize herself and her curiosity to explore. They also connect to Greece and remind her of a beloved childhood pet, encouraging her to paint with the carefree joy of a child once again.